Croeso i Mozilla
O dechnoleg ddibynadwy i bolisïau sy'n diogelu eich hawliau digidol, chi yw ein blaenoriaeth - bob tro.
Caru'r rhyngrwyd eto
Torrwch yn rhydd rhag y cwmnïau technoleg mawr — mae ein cynnyrch yn gadael i chi reoli eich profiad rhyngrwyd i fod yn fwy diogel a phreifat.
- Firefox: Y safon aur ar gyfer pori cyflym, preifat a rheolaeth.
- Thunderbird: Symleiddio eich bywyd gydag un ap ar gyfer eich holl e-byst, calendrau a chysylltiadau.
- Mozilla VPN: Cadw eich lleoliad ac anturiaethau ar-lein yn breifat - ffrydio fel person lleol, yn unrhyw le.
- Mozilla Monitor: Cael gwybod os yw'ch manylion personol mewn perygl a'u diogelu'n iawn.
- Firefox Relay: Cuddio eich e-bost a'ch rhif ffôn fel mai dim ond y negeseuon rydych chi eu heisiau y byddwch chi'n eu cael.
- Solo: Creu gwefan hardd yn sydyn fel gallwch chi dyfu eich busnes.
- 0DIN: Diogelwch eich AI trwy ddod o hyd i wendidau GenAI a'u trwsio cyn i ymosodwyr wneud hynny.
Rhoi i'r Mozilla Foundation
Mae'r Mozilla Foundation yn adeiladu dyfodol lle mae technoleg yn cael ei phweru gan bobl, ac wedi'i gynllunio i fod yn agored. Dyna pam rydyn ni'n cefnogi technoleg sy'n canolbwyntio ar y gymuned trwy eiriolaeth, addysg, cyllid ac arloesi - i wneud yn siŵr bod dyfodol technoleg yn dda i bawb. Ond dim ond os ydym yn ei wneud gyda'n gilydd y mae hynny'n bosibl.
Rydym yn falch ein bod yn gorff dim-er-elw. A wnewch chi gyfrannu at Mozilla heddiw?